<p>Group 1: Land Partly in Wales and Partly in England (Amendments 35, 37, 32, 36, 29)</p>

Part of 11. 9. Debate: Stage 3 of the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Bill – in the Senedd at 4:06 pm on 28 March 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:06, 28 March 2017

(Translated)

Thank you very much, Llywydd. As this is my first contribution to today’s debate, I would like to make some general opening remarks. Of course, I welcome the opportunity to consider amendments to the Bill today. I wish to formally thank all Assembly Members, particularly members of the Finance Committee, for their work in scrutinising the Bill. This has been very valuable in assisting us to draw up this tax legislation.

Members will recall that I gave a detailed response to the committee’s recommendations at Stage 1, shortly after Christmas, and that I introduced a variety of amendments in response to the committee’s recommendations at Stage 2 in January. I also want to thank Members who have tabled the amendments that we are to discuss this afternoon. I can assure Members that I have considered all sets of amendments carefully. I also met with Members following Stage 2 proceedings in order to further discuss issues and to look at means of implementing certain sections of the Bill.

I will now to turn to each Amendment in group 1.

Wel, Llywydd, fel yr ydych wedi clywed, mae’r mater o eiddo trawsffiniol a chroes-deitl wedi bod o ddiddordeb arbennig yn ystod hynt y Bil hwn. Nod y Llywodraeth drwy gydol hyn fu sicrhau dosraniad cyfiawn a rhesymol o gostau pan fydd tir yn gorwedd ar ddwy ochr y ffin, yn seiliedig ar gyngor gan randdeiliaid y bydd angen i’r prawf hwn gael ei ddefnyddio yn ymarferol ym mhob achos.  Nawr, rwy’n derbyn bod yr holl welliannau yn y grŵp hwn yn cael eu rhoi gerbron gyda'r bwriad adeiladol o fynd i'r afael â materion a godwyd wrth graffu, ond, yn ymarferol, mae gwelliant 29 yn ymddangos i mi i fod y defnydd mwyaf materol ac effeithiol wrth ddefnyddio'r prawf, a byddaf yn gofyn i gefnogwyr y Llywodraeth gefnogi gwelliant 29 yn y grŵp hwn.

Fel y mae Aelodau wedi clywed, bydd y gwelliant yn gosod rhwymedigaeth glir iawn ar Awdurdod Cyllid Cymru i gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo trethdalwyr pan fydd tir yn cael ei brynu sy'n gorwedd ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr.  Bydd y canllawiau yn helpu i egluro'r hyn a olygir wrth ddosrannu 'cyfiawn a rhesymol'.  Gall y canllawiau hyn gynnwys dolenni i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sydd ei hun yn cynnwys arweiniad sylweddol ar ddosraniad.

Rwy'n falch iawn o allu cadarnhau eto i Aelodau'r prynhawn yma fod y Gofrestrfa Tir yn gallu darparu mapiau digidol sy'n nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn cynorthwyo'r trethdalwr neu eu hasiant i sefydlu, ar sail gyfiawn a rhesymol, y rhan o'r ystyriaeth a roddwyd ar gyfer y tir yng Nghymru a’r rhan hwnnw o'r ystyriaeth a roddwyd ar gyfer y tir yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd y canllawiau a ddarperir gan welliant 29 yn cael eu seilio'n gadarn ac yn ddibynadwy.

Mae gwelliant 32 yn enw Nick Ramsay a gwelliant 36 yn enw Mark Reckless yn cymryd agwedd wahanol. Yn hytrach na gofyn am ganllawiau i helpu cyrraedd dosraniad cyfiawn a rhesymol ym mhob achos, maent yn cynnig fformiwla, sydd, fel yr ydych wedi clywed, yn cael ei chyfiawnhau fel un sy’n dod ag eglurder a sicrwydd. Yn anffodus, Llywydd, yr un canlyniad y gallwn fod yn hollol sicr ohono yw y byddai'r ymagwedd fformwläig hon yn cynhyrchu dosraniad annheg ac anghyfiawn mewn llawer o achosion. Ychydig iawn o achosion, mewn gwirionedd, fyddai’n gorwedd yn union mewn cyfrannau 50/50 ar y naill ochr a'r llall i'r ffin, a hyd yn oed lle’r oedd y cyfrannau yn union, nid yw gwerth y tir, yn syml, yn adlewyrchiad o'i faint. Unwaith y caiff hynny ei ddeall, bod gwerth y tir yn cael ei bennu, er enghraifft, drwy’r defnydd y gellir ei wneud ohono neu adeiladau sydd wedi'u hadeiladu arno, ac nid yn unig gan ei faint, yna mae eglurder ymddangosiadol ail brawf yng ngwelliant 36 hefyd yn disgyn. Mae'n llawer gwell, yn fy marn i, i ganiatáu i’r gweithwyr proffesiynol medrus hynny, sy'n ymdrin fel mater o drefn â materion fel dosrannu cyfiawn a rhesymol, ddefnyddio’r dyfarniad hwnnw yn ffeithiau pob trafodiad—bellach yn cael cymorth gan y canllawiau a grëwyd gan welliant 29, a thrwy’r dulliau diogelu a ddarperir eisoes gan y Bil.

Llywydd, hyd yn oed pe na fyddai gwelliannau 32 a 36 yn ddiffygiol am y rhesymau a ddarparwyd yn awr, mae'n bwysig cydnabod na fyddai'r trefniadau a nodir ynddynt yn berthnasol i dreth dir y dreth stamp, a fyddai'n parhau i weithredu ar ochr Lloegr y ffin. Byddai'n dal i fod yn rhaid i'r trethdalwr gydymffurfio â'r rheolau treth dir y dreth stamp ar ddosraniad cyfiawn a rhesymol. Am y rhesymau hyn nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliannau hynny. Mae gwelliannau 35 a 37, a gyflwynwyd gan Mark Reckless, yn gysylltiedig. Mae'r gwelliannau yn ceisio sicrhau bod trafodiad trawsffiniol i gael ei drin gan y prynwr fel trafodiad sengl ac efallai wedyn y gellid dychwelyd ffurflen dim treth, felly, i Gyllid a Thollau EM mewn perthynas â threth dir y dreth stamp, gydag Awdurdod Cyllid Cymru yn talu i Gyllid a Thollau EM beth sy'n ddyledus iddynt gan y trethdalwr. Byddai hyn yn golygu y byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn dosrannu’r ystyriaeth ac yn rhoi’r gyfran berthnasol i Gyllid a Thollau EM. Byddai'r gwelliant i bob pwrpas yn gofyn i Awdurdod Cyllid Cymru gasglu a rheoli treth dir y dreth stamp ar ran Cyllid a Thollau EM ar gyfer trafodion trawsffiniol. Mae hynny, ynddo'i hun, yn newid y dreth o dreth hunanasesiad i un lle mae Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydlu atebolrwydd trethdalwr ar gyfer Treth Trafodiadau tir a threth dir y dreth stamp. .

Nawr, ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, a fyddai yn fy marn i yn disgyn y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad, gan fod y darpariaethau yn bwriadu newid sut y bydd treth dir y dreth stamp yn berthnasol i drafodiad tir yn Lloegr.  A thrwy ddarparu ar gyfer dychwelyd dim ffurflen dreth i Gyllid a Thollau EM, maent yn ymddangos i osod swyddogaeth ar HMRC heb ganiatâd y Trysorlys.  Ymhellach, nid yw'r gwelliannau’n cael gwared ar y rhwymedigaeth bresennol yn neddfwriaeth y DU i’r prynwr gyflwyno ffurflen i Gyllid a Thollau EM. Ei effaith, felly, yw y byddai mewn gwirionedd yn rhaid i'r prynwr gyflwyno dwy ffurflen i Gyllid a Thollau EM—y ffurflen dim treth a’r ffurflen ar sail gyfiawn a rhesymol, a fyddai'n dal i fod yn ofynnol gan ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp. Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio dros welliant 29, ac i wrthwynebu'r pedwar gwelliant arall yn y grŵp hwn.

amendment

As a bill passes through Parliament, MPs and peers may suggest amendments - or changes - which they believe will improve the quality of the legislation.

Many hundreds of amendments are proposed by members to major bills as they pass through committee stage, report stage and third reading in both Houses of Parliament.

In the end only a handful of amendments will be incorporated into any bill.

The Speaker - or the chairman in the case of standing committees - has the power to select which amendments should be debated.