10. 6. Debate on the External Affairs and Additional Legislation Committee Report on the Implications for Wales of Leaving the European Union: Continued

Part of the debate – in the Senedd at 3:22 pm on 28 March 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:22, 28 March 2017

(Translated)

May I first of all thank the committee Chair for leading our discussions within the committee? And also, on the quality of his Welsh language contribution, he's kept the quality of his Welsh very quiet since I've been here, so congratulations to you on that.

Nawr, yr hyn sy'n ddiddorol am yr adroddiad hwn yw ei fod wedi’i ddrafftio yn erbyn cefndir a oedd yn newid yn gyson; roedd yn symud yn gyson. Felly, o'r drafft cyntaf i'r drafft terfynol gwelsom Lywodraeth y DU yn amlinellu ei strategaeth a gwelsom gyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru. Felly, roedd rhaid i lawer o ailddrafftio cyflym iawn ddigwydd. Pan fo cymaint i'w ddweud am Brexit, yr hyn sy'n amlwg yw bod pwysau llethol y dystiolaeth yn awgrymu y byddai gadael marchnad sengl yr UE yn cael effaith ddinistriol ar ein heconomi. Mae hynny oherwydd ein bod yn dibynnu mwy ar allforion ac, wrth gwrs, ar y taliadau hyn yr ydym yn eu cael o gronfeydd amaethyddol a strwythurol. Nawr, mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei wneud yn glir iawn yn yr adroddiad. Mae'n bwynt a bwysleisiwyd eto yn yr adroddiad Demos a gyhoeddwyd ddoe.

Ac, wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny, caiff cyfansoddiad mewnol y DU ei brofi o ddifrif yng ngoleuni Brexit, gan nad yw'r Deyrnas Unedig a ymunodd â'r EEC yn 1973 yr un DU â’r un a fydd yn gadael yr UE yn 2019. Mae datganoli wedi digwydd yma yn y cyfamser. A bellach, yn ôl y gyfraith, mae gennym lu o gyfrifoldebau yng Nghymru am lawer o wahanol bynciau, sydd hyd yn hyn wedi cael eu rheoli o fewn fframwaith yr UE. Nawr, yn ôl y gyfraith rwy’n glir mai’r Cynulliad fydd yn gyfrifol am amaethyddiaeth eto pan fyddwn yn gadael yr UE, ond, a dweud y gwir, os nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian inni, bydd hwnnw’n bŵer eithaf diwerth.

Nawr, rwy’n mynd i gyfyngu fy hun i ddau bwynt byr a ddaeth allan o'r adroddiad a oedd yn eithaf diddorol imi. Yn gyntaf oll, cyfraith amgylcheddol: yr hyn yr ydym yn ei wybod yw nad yw llygredd yn parchu ffiniau ac rwy'n credu bod hynny'n un o lwyddiannau mawr yr UE. Dyna’r fframwaith ar gyfer yr amgylchedd y mae angen i aelod-wladwriaethau weithredu oddi mewn iddo. Y ffaith yw, yn y gorffennol, bod Llys Cyfiawnder Ewrop wedi bod yn rym hynod bwerus i sicrhau cydymffurfiad â deddfau amgylcheddol. Dewch inni beidio ag anghofio y bydd sawl agwedd ar gyfraith amgylcheddol yn dychwelyd i Gymru ar ôl Brexit. Y ffaith yw, o fewn yr UE, bod sefydliadau'r UE yn cynnig mecanwaith rhad ar gyfer gwneud iawn, ac ni fydd hwnnw yno mwyach wedi inni adael yr UE. Yn y dyfodol, bydd yn rhaid i unigolion a sefydliadau preifat ddibynnu ar brosesau adolygu barnwrol drud y DU a bydd rhaid iddynt dalu am yr achosion hynny eu hunain. Rwy'n credu mai cam yn ôl i’r sefyllfa amgylcheddol yn y wlad hon yw hynny. Efallai hefyd na fydd dim cyfleuster i herio'r DU, na hyd yn oed Lywodraeth Cymru, os ydynt yn methu â gorfodi'r safonau a ddisgwylir. Dyna dwll enfawr nad oes neb bron wedi ei ystyried eto ynglŷn â’r ddadl hon am Brexit.

Yr ail bwynt yr hoffwn ganolbwyntio arno yw iechyd. Yng Nghymru, gallwn ymfalchïo mewn diwydiant fferyllol iach iawn, ond mae rhan o'r llwyddiant hwnnw oherwydd ein bod yn gweithio o fewn fframwaith sengl yr UE, sy'n caniatáu i feddyginiaethau newydd gael eu dwyn i mewn yn gyflym i’r farchnad. Yn y dyfodol, mae'n bosibl y bydd yn rhaid inni wneud cais am awdurdodi ym mhob aelod-wladwriaeth unigol. Nid oes gennym farchnad sengl i’r DU ar gyfer hyn ychwaith. Felly, bydd angen inni benderfynu a oes eisiau un arnom. Ar gyfer treialon clefydau mwy prin, mae angen inni allu recriwtio o gronfa fawr o gleifion ar draws yr UE, a gallai hynny newid yn y dyfodol. Felly, rydym yn gobeithio y gellir cysoni deddfwriaeth ar y mater hwn ar draws aelod-wladwriaethau ar ôl Brexit.

Rydym yn gwybod y caiff y gwn cychwyn ei danio yr wythnos hon ar un o'r tasgau negodi mwyaf cymhleth y mae Llywodraeth y DU wedi ymgymryd â hwy erioed, dan arweiniad tîm o weision sifil heb ddim profiad negodi braidd. Mae Brexit yn digwydd, ond rwy’n dal i ofni bod y cyhoedd ym Mhrydain wedi agor blwch Pandora ar adeg pan nad ydym erioed wedi gweld cythrwfl gwleidyddol mor eithafol yn y byd â’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Welsh language

The language of Wales spoken by around 25% of the population. It is an Indo-European language and belongs to the Celtic group. It was made "offical" in Wales by the Welsh Language Act 1993. It is known in Welsh as Cymraeg.